Morfydd HumphreyJONESGlanfa, Pontllyfni. Dymuna'r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Morfydd, priod, mam, mam yng nghyfraith, nain, hen nain, a chwaer annwyl iawn. Diolch am yr ymweliadau, y llu cardiau, galwadau ffon ac am y rhoddion hael o £1030 i'w rhannu rhwng Alzheimers Society a P.S.P Association. Diolch arbennig i'r Parchedig Geraint Roberts am ei wasanaeth, Mrs. Ann Vaughan Jones yr organyddes, i Huw a Beti Jones, Pontllyfni am eu trefniadau ac i bawb a gymerodd ran yn yr angladd. Diolch am y gofal tyner a dderbynniodd Morfydd tra yng nghartref Glyn Menai, Treborth, Bangor. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Morfydd